Ngala Nor’dzin Rangjung Pamo

bywgraffiad

Pâr sy’n addysgu oddi mewn i draddodiad Aro gTér yr Ysgol Nyingma yw Ngala Nor’dzin Pamo a’i gwr Ngala ’ö-Dzin Tridral. Maent yn cyplysu ymarfer, dysgu a gofal bugeiliol dros eu prentisiaid gyda bywyd proffesiynol a theuluol.

Ganwyd Ngala Nor’dzin yn Lichfield, Swydd Stafford. Roedd y tywydd yn anarferol o stormus ar noson ei geni a chafwyd storm fellt a tharanau a glaw trwm trwy gydol yr wythnos y ganwyd hi ynddi. Tyfodd fynnu ym maestrefi ar gyrion Birmingham: Shirley, Solihull Lodge ac ymhellach ymlaen mewn pentref o’r enw Hampton in Arden. O oedran cynnar dechreuodd chwilio am gartref ysbrydol. Fel plentyn ifanc dychmygodd fywyd fel athrawes oedd yn medru gwella pobl ac oedd a’r ddawn i gyfathrebu gydag adar ac anifeiliaid.

Mae’n dweud am ei blynyddoedd cynnar:
Roeddwn yn arfer canu fy hun i gysgu pob nos efo emynau a chaneuon poblogaidd oedd yn fy nghyffroi. Ni ddywedais dim wrth neb am y bywyd dychmygol hwn ac nid oedd yn ymddangos yn ddim ond ffantasi plentyn tan lawer nes ymlaen.

Yn ddiweddarach dechreuodd edrych o ddifri am allanfa i’w hysbrydolrwydd Nid oedd ei theulu yn grefyddol a mynegodd ei rhieni syndod a pheth pryder pan ddechreuodd fynychu oedfaon eglwys yn rheolaidd. Er gwaetha diffyg cefnogaeth ei theulu daliodd ati:
Rhoddais gynnig ar un neu ddau o eglwysi yn fy ardal ac yn y diwedd cefais hyd i un lle roeddwn yn hapus. Roedd yr eglwys hon yn canu eu hoedfaon. Roedd yn rhyfeddol. Roeddwn wrth fy modd.

O’r diwedd canfu Ngala Nor’dzin nad oedd ganddi’r math o ffydd oedd Cristnogaeth yn galw amdano. Yn ei harddegau roedd ganddi lawer o gwestiynau yn aros heb eu hateb, ac ni allai’r ficer oedd yn arwain ei dosbarthiadau conffyrmasiwn eu hateb mewn termau perthnasol i’w bywyd. Mae’n mynd ymlaem:
Roeddwn yn dal i wybod, sut bynnag, fy mod yn chwilio am rywbeth. Gwn, mewn rhyw ffordd , fy mod yn aros yn berson ysbrydol. Hyd yn oed mor hwyr â fy swydd lawn-amser gyntaf pan oeddwn yn ddwyflwydd a’r bymtheg oed, roeddwn yn dweud wrth bobl fy mod am fod yn lleian neu yn genades un diwrnod, er fy mod wedi sylweddoli nad oedd Cristnogaeth yn gweithio i mi.

Nid oedd addysg Uwchradd yn brofiad pleserus i Ngala Nor’dzin. Mae’n priodoli blynyddoedd rhwystredig yn yr ysgol ramadeg i’r gogwydd at astudiaeth wyddonol yn hytrach na chreadigedd. Er i’r ysgol ddarparu addysg dda a sylfaen gwerthfawr i’r hyfforddiant yr ymgymerodd a fo ymhellach ymlaen mewn bywyd, teimlodd mor anniddig ei bod wedi penderfynu gadael yn un flwydd a’r bymtheg oed. Yn fuan cyn iddi gyrraedd 18, bu farw brawd hynaf Ngala Nor’dzin. Gadawodd cartref yn fuan wedi ei farwolaeth a gweithiodd mewn gwahanol swyddi mewn gwahanol rannau o Loegr dros y blynyddoedd nesaf. Yn 23 oed penderfynodd ddychwelyd i addysg lawn amser, a chyflawnodd BA Anrhydedd mewn Dylunio Amlddisgyblaethol, gan arbenigo mewn cerameg. Yn ystod yr amser yma cymerodd ddiddordeb arbennig yn y seremoni te Japaneaidd fel sail i’w thesis, a chafodd ei hudo gan bowlenni te a’r perthynas ysbrydol rhwng y broses o greu gwrthrych ceramig a seremoni ddefodol. Er mwyn medru deall y seremoni de yn well dechreuodd ddarllen llyfrau am Shinto, crefydd ethnig Japan, ac am Fwdhaeth Zen.

Yn ystod tair blynedd ei chwrs, brwydrodd Ngala Nor’dzin i ddygymod a marwolaeth sydyn, dreisgar a trawmatig ei thad, a ddigwyddodd yn ystod ei thymor cyntaf yn y coleg. Penderfynodd Ngala Nor’dzin gymryd diddordeb mwy ymarferol mewn Bwdhaeth gan obeithio y byddai hyn yn cynnig ffordd o ddeall profiadau poenus ei bywyd. Yn 1980 mynychodd ei hencil cyntaf yn y Ganolfan Fwdhaidd Lam Rim yng Nghymru, gan ddechrau ymglymiad gyda’r traddodiad Gélug a barodd dros amryw o flynyddoedd. Mae’n sylwi:
O fewn y penwythnos gyntaf sylweddolais fy mod wedi cael hyd i gartref. Roeddwn wedi darganfod grŵp o bobl, awyrgylch ac ymarfer oedd yn newydd ac yn gyfarwydd ar yr un pryd, yn ysbrydoli ac yn peri dryswch – a roeddent yn siantio. Sylweddolais ymhellach mlaen bod rhywbeth yn y gwasanaethau eglwysig pan oeddwn tua 10 – 12 mlwydd oed, oedd yn atsain dönpa a yang Bwdhaeth Tibet.

Yn y Ganolfan Gélug hwn y cyfarfu Ngala Nor’dzin gyda Gala ’ö-Dzin, Khandro Dé a Ngak’chang Rinpoche. Roedd Ngak’chang Rinpoche wedi ei wahodd i ddysgu yn y ganolfan gan leian breswyl o’r Gorllewin o’r enw Tsultrim Zangmo. Roedd hi yn awyddus i bobl glywed Bwdhaeth mewn iaith gyfoes gan Lama gorllewinol .Roedd Chö-la Tsultrim yn ysbrydoliaeth ac yn gyfaill i Gala Nor’dzin ond yn drist bu farw yn 1984. Cyflawnodd y Hybarch Geshé Damchö a Ngak’chang Rinpoche defodau angladd iddi ar ben Mynydd Pen-y-fal yn ymyl Y Fenni yng Nghymru, mewn seremoni lle taflodd Ngak’chang Rinpoche ei hulw i’r gwynt. Yn ddiweddarach, yn ddamweiniol, cafodd Ngala Nor’dzin ei hun yn byw mewn fflat drws nesa i Ngak’chang Rinpoche a dechreuodd ymweld â fo yn aml i ofyn cwestiynau, yn enwedig am natur Tantra, ac i ymarfer tsog khorlo. Mae’n cofio:
Pob amser byddaiRinpoche yn fy ateb mor eglur ac amyneddgar, a gyda hiwmor fel fy mod yn medru gwneud synnwyr o’r cyflwyniad cymhleth i Fwdhaeth Tibet a dderbyniais. Llwyddodd Rinpoche i’w wneud yn fyw ac yn berthnasol i’m bywyd fel dynes gyffredin.

Ymhen amser sylweddolodd Ngala Nor’dzin bod rhai iddi ddewis rhwng y ddau draddodiad yr oedd wedi bod yn ymarfer ac yn astudio – traddodiad Gélug y Ganolfan Lam Rim neu Traddoded Nyingma Ngak’chang Rinpoche. Gan nad oedd hi wedi gwneud unrhyw addunedau na wedi ymgymryd ag unrhyw ymrwymiadau, nid oedd yn benderfyniad problemus. Roedd Ngala Nor’dzin wedi bod yn cael hi’n anodd cyfuno ymarferion traddodiad mynachaidd gyda bywyd teuluol. Felly penderfynodd gwneud ei chartref ysbrydol yn llinach Aro gTér o’r traddodiad Nyingma Ngakphang. Mae’n dweud:
Nid oedd Ngak’chang Rinpoche byth yn difrïo nac yn tanseilio’r gwerthoedd na’r fframwaith a gynigwyd i mi yn y Ganolfan Gélug; yn syml, cynigiodd safbwyntiau oedd yn gwneud yr athrawiaethau yn ymarferol. Blynyddoedd yn ddiweddarach sylweddolais mai trosglwyddiad llafar o Dzogchen oeddwn i wedi derbyn ganddo mewn ateb i’r rhan fwyaf o fy nghwestiynau am ymarferiad.

Wedi mynychu amryw o enciliadau addysgiadol dwys, gofynnodd i Ngak’chang Rinpoche fod yn tsa-wa’i Lama iddi. Ordeiniwyd Ngala Nor’dzin yn 1987, a hi oedd disgybl cyntaf Ngak’chang Rinpoche i ymgymryd ag ymrwymiad vajra. Hi hefyd oedd y Ngakma Gorllewinol cyntaf i wisgo gwisgoedd y sanga gwyn (dGe dun dKar po) yn y Gorllewin. Roedd hwn yn gam pwysig, nid yn unig iddi hi, ond i Ngak’chang Rinpoche, gan ei fod wedi derbyn anogaeth yn benodol i sefydlu ngakphang sanga yn y Gorllewin gan HH Dudjom Rinpoche. Felly Ngala Nor’dzin oedd y person fyddai’n cychwyn ar sefydlu gweledigaeth ei Lama. Mae cefndir Ngala Nor’dzin yn y traddodiad Gelug, ei chwblhad o’r ngöndro Tantric, a’i phrofiad o ymarfer yn ystod ei phererindod i India, yn cyfeirio ei dealltwriaeth a’i phrofiad o wahanol undyanas Buddhism Tibetaidd.

Yn ei haddysgu mae hi’n medru ymhelaethu ar bwnc gan egluro ei berthnasedd i wahanol gyfryngau ymarfer. Gall hyn gynnig eglurhad i rai gyda gwybodaeth o wahanol agweddau o Fwdhaeth sydd weithiau yn ymddangos yn groes i’w gilydd; yn aml mae hyn yn gymorth i ddatrys dryswch ynglŷn ag ymarfer.

Mae Ngala Nor’dzin yn cysegru ei hamser gwaith yn gyfan gwbl i’r sanga prentisiaid sy’n cynyddu ac i’r Llinach Aro. Ar ôl gweithio fel athrawes ysgol ac fel gweithiwr crefft pan ddaeth i fyw yng Nghymru gynta’, penderfynodd ailhyfforddi fel homoeopath proffesiynol tra bod ei phlant yn fychan. Derbyniodd hyfforddiant hefyd mewn cynghori, adweitheg a hypnotherapi. Gweithiodd fel homeopath ac adweithydd am rai blynyddoedd yng Nghaerdydd. Sylweddolodd o’r diwedd y byddai’n rhaid iddi roi’r gorau i’r gwaith er mwyn rhoi fwy o amser i’w phrentisiaid, i athrawiaeth Fwdhaidd, ac i ysgrifennu.

Mae Ngala Nor’dzin esbonio:
Sylweddolais na allwn weithredu fel y homoeopath y dymunwn fod yn yr amser oedd gennym. Nid oes digon o amser mewn bywyd i arddel dwy alwedigaeth, Roedd rhaid gosod fy ymarfer Bwdhaidd, ei ymrwymiadau a chyfrifoldebau yn gyntaf, ochr yn ochr â fy ymrwymiadau teuluol. Yn y diwedd teimlais ei bod yn annheg i fy nghleifion i barhau.

Mae ei diddordeb mewn iechyd a meddygaeth yn parhau trwy ymarfer y dechneg ddiagnostig o archwilio pwls a chydbwyso elfennau. Mae diddordeb a gallu meddygol Ngala Nor’dzin’s yn adlewyrchu galluoedd ei chyn ailenedigaeth, Ngakpa Dawa Ngödrüp. Roedd ef yn llysieuydd yn y gwersyll Aro Gar yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif yn Nhibet. Ei briod oedd Khandro Chöying Nyima, un o bump mamau Aro Yeshé, a ail anwyd fel Ngala ’ö-Dzin.

Gyda’i gilydd byddent yn teithio i’r mynyddoedd i hel llysiau. Mae Ngala Nor’dzin yn dysgu yn Enciliadau Dysgu Agored y DU gyda Ngala ’ö-Dzin, ac yn cynnig sgyrsiau gydag ef yn eu hardal eu hunain. Maent yn ymgorffori dull y ngakmas a ngakpas pentref yn naturioldeb eu cyflwyniad a’u hamrywiaeth o sgiliau’r grefft Tantric. Mae ei hyfforddiant mewn dylunio wedi bod yn amhrisiadwy yn ei rôl fel ngakma. Mae yn enwog yn yr Aro sanga am ei gallu fel gwniadwraig ac am ei hymroddiad ymarferol fel crefftwr a’i gwaith mewn cerameg yn arbennig.

Sefydlodd prosiect naw mlynedd i greu 111 o ffiolau trysor ceramig (gTér bum), gan gyflawni un o weledigaethau Ngak’chang Rinpoche. Crëwyd y ffiolau trysorau gwerthfawr hyn yn ystod nifer helaeth o enciliadau yn eu cartref, Aro Khalding Tsang, gan eu tanio mewn odyn-sychu yn y sied. Erbyn hyn meant wedi eu dosbarthu try’r byd a’u lleoli mewn mannau arwyddocaol neu addawol. Ar un adeg gwnaeth llawer o eitemau crefft, megis chö-phens brocêd i ddrymiau, fframiau brocêd i thangkas, bagiau offerynnau, siolau Llinach Aro, matiau ymarfer, powlenni ceramig, a mentyll llinach. Canmolwyd ei damarus ceramig yn uchel gan Kyabjé Chhi’mèd Rig’dzin Rinpoche. Pob blwyddyn mae Ngala Nor’dzin yn arwain enciliad crefft deg diwrnod yng Nghaerdydd. Yn ystod hwn mae prentisiaid yn gweithio ar brosiect cyfan.

Yn y gorffennol mae’r llwyddiannau hyn wedi cynnwys gwneud appliqués o Yeshé Tsogyel a Khyungchen Aro Lingma, a phaentio’r ystafell cysegr lle cynhelir cyfarfodydd y Grŵp Myfyrdod Bwdhaidd Vajrayana yng Nghaerdydd. Yn draddodiadol mae pob enciliad yn diweddu gyda thrip i fan gwyllt o harddwch naturiol lle gall y prentisiaid ymarfer gwerthfawrogi ac uno gyda’r elfennau. Mae’r mannau lle mae’r ffiolau drysor wedi eu cuddio yn cynnwys Craig Aderyn lle yr ordeiniwyd Khandro Déchen, a Cader Idris yng nghanolbarth Cymru. O achos ei phrofiad eang o Vajrayana, mae Ngala Nor’dzin wedi ysgrifennu erthyglau yn seiliedig ar ei dealltwriaeth ers y1990au cynnar. Cyhoeddwyd ei gwaith yn y cylchgrawn Vision ar nifer o achlysuron. Mae ei llyfr cyntaf ‘Spacious Passion’ yn cynnig safbwynt Tantrig ar y Pedwar Syniad sy’n Troi’r Meddwl at Ymarfer, ac fe’i cyhoeddir yn fuan. Ar hyn o bryd (Hydref 2005) mae gwefan yn cael ei greu i leoli’r gwaith yma: www.spacious-passion.org.

Mae Ngala Nor’dzin yn esiampl ysbrydoledig o integreiddio ymarfer a bywyd teuluol. Mae hi a Ngala ’ö-Dzin yn cynnig enghraifft o’r traddodiad hynafol o’r tŷ yn cynnal ngakmas a ngakpas yn y byd modern. Ei rhyngweithiad dyddiol gyda’i theulu a’i phrentisiaid yw ei hymarfer. Mae ei charedigrwydd, ei hymarferoldeb, a’i gallu i weithredu mewn ffordd lyfn sy’n ymddangos yn ddiymdrech yn ysbrydoliaeth i’w chyd-ymarferwyr ac i bawb sy’n ei chyfarfod. Mae ei dau fab aeddfed a medrus, Daniel a Richard, yn dystiolaeth i’w gallu. Maent yn rhyngweithio yn naturiol gyda’r sanga wrth barhau i astudio’n galed at eu harholiadau yn yr ysgol uwchradd leol. Yn aml maen nhw eu hunain yn gweithredu fel delfryd ymddwyn i’w cyfeillion a’u cydnabod.

Mae Ngak’chang Rinpoche yn dweud am Ngala Nor’dzin:
Yn wastad roedd gan Ngala Nor’dzin ymdeimlad o weithgaredd yn codi o weledigaeth. Rwy’n cofio o gyfnod cynnar yn ein perthynas ei bod hi’n awyddus i weu dillad roeddwn i wedi disgrifio o freuddwyd. Nid yw’r dillad erbyn hyn yn bodoli, ond ar yr adeg roeddent yn ateb pwrpas pwysig. Y pwysigrwydd oedd mai ychydig iawn oedd rhaid dweud nag egluro. Roedd hi’n medru gadael i bob dim aros ar lefel di-gysyniadol.