Ngala ’ö-Dzin Tridral Dorje

bywgraffiad

Mae Ngala ’ö-Dzin Tridral DorjeNgala ’ö-Dzin Tridral Dorje Ngala ’ö-Dzin Tridral a’i wraig Ngala Nor’dzin Pamo yn gwpwl sy’n addysgu yn nhraddodiad Aro gTér o Ysgol Nyingma. Maent yn cyfuno ymarfer, addysgu, a gofal bugeiliol dros eu prentisiaid gyda bywyd proffesiynol a theuluol.

Ganwyd Ngala ’ö-Dzin yn Whitchurch, Caerdydd, i deulu Catholig. Mae’n dweud am y cyfnod cynnar yn ei fywyd:
Roedd fy mam bob amser yn garedig. Teimlaf fod hyn yn bwysig yn annibynnol o gredoau crefyddol – just i fod yn garedig. Rwy’n meddwl mai hwn oedd un o’r dylanwadau mwyaf yn fy magwraeth.

O oed cynnar, roedd gan Ngala ’ö-Dzin ddiddordeb mewn ffuglen wyddonol. Darllenodd yn eang yn ystod ei arddegau a dyma pryd ddechreuodd ddarllen llyfrau am Fwdhaeth, ymhlith crefyddau eraill. Mae’n sylwi:
Roedd darganfod Bwdhaeth yn fwy fel cofio na dysgu am y tro cyntaf. Roeddwn wedi dechrau chwilio am rywle lle y teimlwn yn fwy cartrefol. I ryw raddau roedd hyn wedi ei symbylu gan fy niddordeb mewn ffuglen wyddonol. Roeddwn yn dechrau meddwl tu hwnt i’r amgylchfyd y magwyd fi ynddo.

Dechreuodd holi ei ffydd Gatholig a phenderfynodd ffeindio sut beth oedd Bwdïaeth yn ymarferol. Er mwyn gwneud hyn dechreuodd ymweld â’r Ganolfan Bwdhaidd Lam Rim. Yma cyfarfu gyda Ngala Nor’dzin, Ngak’chang Rinpoche a Khandro Déchen. Roedd Ngala ’ö-Dzin yn ffodus i gyd-deithio i’r Ganolfan Gélug hwn gyda Ngak’chang Rinpoche, a chafodd gyfle i ofyn llawer o gwestiynau.

Ffeindiodd esboniadau Rinpoche yn arbennig o glir ac addas ac mae’n dweud:
Roedd hi’n ysbrydoliaeth i glywed y ddysgeidiaeth mewn iaith gyfoes y Gorllewin, a darganfod nad ffydd oedd yn orfodol ond yn hytrach datblygiad trwy brofiad uniongyrchol. Trwy Ngak’chang Rinpoche datblygais hyder i ddisgwyl bod ateb i bob cwestiwn. Bob amser byddai’r ateb yn dod mewn iaith oedd yn adlewyrchu iaith fy nghwestiwn ac yn fuan datblygais ddull esmwyth o gyfathrebu gydag ef oedd yn diddymu llawer o rwystrau cysyniadol.

Ffeindiodd Ngala ’ö-Dzin ei fod yn cael nifer anghyffredin o gyfarfodydd damweiniol gyda Ngak’chang Rinpoche wrth gerdded trwy Gaerdydd, ac ar yr achlysuron hyn gallasai ofyn i Ngak’chang Rinpoche llawer o gwestiynau ynglŷn â’i ymarfer. Ffeindiodd y rhyngweithiad hwn yn werthfawr iawn, yn enwedig gan ei bod ar y pryd yn beth anghyfarwydd iddo dderbyn dysgeidiaeth ar y stryd fel petai yn beth hollol arferol.

Wedi iddo ffeindio bod athrawiaethau Ngak’chang Rinpoche mor addas iddo, dechreuodd Ngala ’ö-Dzin ofyn am athrawiaeth oddi allan i’r Ganolfan Fwdhaidd a dilynodd yn olion traed Ngala Nor’dzin gan ofyn i Ngak’chang Rinpoche fod yn athro iddo. Felly Ngala Nor’dzin a Ngala ’ö-Dzin oedd myfyrwyr personol cyntaf Ngak’chang Rinpoche a dyma oedd cychwyn y sanga Aro gTér.

Wedi cryn ymarfer, astudiaeth ac enciliad gofynnodd Ngala ’ö-Dzin i Ngak’chang Rinpoche fod yn tsa-wa’i Lama (athro sylfaenol neu feistr vajra) iddo. Sut bynnag, er mwyn ei ordeinio roedd yn rhaid i Ngala ’ö-Dzin fynd ar bererindod i India neu Nepal. Ar yr adeg roedd ail blentyn Ngala Nor’dzin a Ngala ’ö-Dzin, Richard, prin yn flwydd oed a meddyliai Ngala ’ö-Dzin y byddai cryn amser cyn i ymrwymiadau teulu ganiatáu iddo deithio i India. Sut bynnag i’w fawr syndod, ymateb syml Ngala Nor’dzin’s oedd, ‘Beth am Chwefror?’ Felly cychwynnodd am McLeod Ganj yng Ngogledd India yn Chwefror 1991.Wedi cyrraedd Delhi, roedd Ngala ’ö-Dzin yn disgwyl cyfarfod Ngak’chang Rinpoche a theithio i’r gogledd gydag ef. Yn anffodus roedd Ngak’chang Rinpoche yn sâl, felly roedd yn rhaid iddo deithio ar ben ei hun.

Mae’n cofio:
Ni fwynheais Delhi pan gyrhaeddais gynta ac roeddwn yn hapus iawn i ddechrau ar fy nhaith i’r gogledd. Unwaith imi gyrraedd McCleod Ganj, teimlais yn gartrefol. Yn Fis Mai 1991, wedi dychwelyd o’i bererindod, daeth Ngala ’ö-Dzin yn drydydd person i ymgymryd ag ordeinio ngak’phang ar ôl Ngala Nor’dzin a Ralzhig Pema Legden, a daeth yn ddisgybl vajra i Ngak’chang Rinpoche.

Mae Ngala ’ö-Dzin yn adnabyddus am ei hiwmor ai ffraethineb. Sylwir bod ei bresenoldeb yn y sanga yn minio’r awyrgylch tra bod ei sirioldeb yn gwneud pawb yn gysurus. Mae ei brentisiaid hefyd yn parchu ei ddyfalbarhad a’i benderfyniad Esiampl o hyn yw ei agwedd ysbrydoledig at weithio yn galed. Pan oedd ei brentisiaid yn blino yn ystod eniciad grefft 2005, roedd ei hiwmor a’i allu i weithio yn bell i mewn i’r noswaith yn ysgogi pawb o’r newydd i barhau. Mae yn cael ei adnabod a’i garu hefyd ar sail ei bersonoliaeth dyner a’i bresenoldeb tawel- rhinweddau sy’n ymddangos yn ei amynedd wrth ateb cwestiynau mewn grwpiau sy’n eistedd neu mewn enciliadau agored.

Cydnabyddir Ngala ’ö-Dzin fel hanesydd Llinach Aro. Mae cyfuniad ei ogwydd at fanylder a’i gof eithriadol, yn golygu ei fod yn medru adrodd storïau o hanes y llinach yn gynulliadau y sanga. Ngala ’ö-Dzin sy’n aml yn cofio enw cymeriad hanesyddol pan bod pawb arall yn methu. Adnabuwyd Ngala ’ö-Dzin fel ailenedigaeth o Khandro Chö-ying Nyima-’öZér gan Ngak’chang Rinpoche. Chö-ying Nyima oedd sang-yum ailenedigaeth flaenorol Ngala Nor’dzin, Dawa Ngödrup, a arferai fynd gydag ef i’r jyngl i gasglu llysiau meddygol. Roedd hi hefyd yn un o’r Tair Mam.

Mae Ngala ’ö-Dzin wedi hyfforddi a gweithio gyda cyfrifiaduron mewn gwahanol swyddi ers ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae’n gweithio llawn amser fel rheolwr project yn adran Technoleg Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’n ffafrio Linux ac mae’n hoffi’r ffordd mae meddalwedd Tarddiad Agored wedi creu dewis i bobl unwaith eto. Mae arbenigedd cyfrifiadurol Ngala ’ö-Dzin a’i wybodaeth o HTML a sgript Perl yn ei alluogi i gynorthwyo yn natblygiad gwefan Aro gTér. Mae ei allu i weithio llawn amser mewn proffesiwn manwl ac ymdrechgar wrth barhau I fod ar gael i’w deulu a’i sanga yn ysbrydoliaeth i’w brentisiaid. Yn aml mae’n brysur gydag ymrwymiadau Bwdhaidd dros benwythnos cyfan heb dderbyn seibiant o’i waith, ac eto mae ei egni a’i brwdfrydedd i weithredu fel cyfrwng athrawiaethau Vajrayana i’w brentisiaid yn ddiflino. Mae gobaith y bydd sanga Ngala Nor’dzin a Ngala ’ö-Dzin cyn bo hir yn tyfu digon iddo fedru gweithio rhan-amser a chysegru mwy o’i amser i ddysgu ac ymarfer. Heb os nac oni bai byddai hyn o werth i bawb.